SEWSCAP - Trosolwg o’r Fframwaith

Croeso i SEWSCAP3 - Fframwaith Adeiladu Cydweithredol De Ddwyrain a Chanolbarth Cymru

Yn dilyn ei lwyddiant blaenorol fel fframwaith adeiladu cydweithredol, dyma drydedd fersiwn y fframwaith adeiladu cydweithredol yng Nghymru.

Mae SEWSCAP3 yn dwyn ynghyd arbenigedd contractwyr bach, canolig a mawr cyn-gymhwysol, i ddarparu gwaith adeiladu ysgolion/ adeiladau cyhoeddus amrywiol, yn ogystal ag atebion modiwlaidd a symudol, gyda gwerthoedd o rhwng £250k a £100m.

Ei genhadaeth yw cyflawni trefniadau gwerth gorau ar gyfer De Ddwyrain a Chanolbarth Cymru trwy gaffael cystadleuol, gan ysgogi adfywio, gwelliant parhaus ac arfer gorau. Cyflawnir hyn trwy welliant parhaus gyda chyfranogiad rhanddeiliaid allweddol a meincnodi'r diwydiant.

Fel aelod o Gymdeithas Genedlaethol y Fframweithiau Adeiladu (NACF), mae SEWSCAP yn gallu cydweithio ymhellach ar sail Cymru a Lloegr, gan rannu arfer gorau gyda fframweithiau sector cyhoeddus cenedlaethol tebyg eu natur, sydd o fudd i brynwyr a chontractwyr.

Anogir contractwyr i gydweithio mewn diwylliant cydweithredol o amcanion, prosesau ac offer a rennir, a fydd yn lleihau'n sylweddol y costau a'r gwaith papur a oedd yn gysylltiedig â thendro yn flaenorol; ac a fydd yn arwain at ddosbarthiad incwm tecach ar draws contractwyr bach a mawr.

Egwyddorion craidd

SEWCSAP-CORE-PRINCIPLES-WELSH-with-text

Mae'r fframwaith yn agored i 13 awdurdod lleol, cyrff addysg uwch, colegau addysg bellach, byrddau iechyd a chymdeithasau tai yn Ne Ddwyrain a Chanolbarth Cymru. Yn flaenorol, cynhaliwyd y fframwaith gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac mae wedi'i drosglwyddo i Gyngor Dinas Caerdydd.

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i gaffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol a disgwylir y bydd prynwyr a chontractwyr ar y fframwaith yn darparu llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol trwy:



buddion cymunedol



cyflogaeth foesegol

cefnogi Busnesau Bach a Chanolig a

hybu'r economi leol

Bydd fframwaith SEWSCAP3 yn dechrau ar 3ydd Mehefin 2019, am gyfnod o 4 blynedd a bydd yn adeiladu ar y fframwaith presennol.

I ddarganfod mwy am y manteision y mae'r fframwaith yn eu cynnig, gan gynnwys buddion ariannol, effeithlonrwydd, cymunedol ac arfer gorau, cliciwch yma.

Neu i ddarllen am brojectau blaenorol, clicwch yma.

Y tîm fframwaith

Penny Haywood

Swyddog Caffael

Sewscap Photo Pennybw

Mae gan Penny dros 5 mlynedd o brofiad o weithio yn y Sector Cyhoeddus. Mae hi wedi gweithio ar gaffaeliadau Gwasanaethau Proffesiynol proffil uchel o fewn y Llywodraeth Ganolog, ac mae ganddi wybodaeth helaeth o weithredu a defnyddio systemau rheoli categori ac eGaffael. Yn ei rôl bresennol fel Uwch Arbenigwr Categori yn Nhîm yr Amgylchedd mae’n ymdrin â: Cynnal a Chadw ac Adeiladu Priffyrdd, Gwasanaethau Proffesiynol, Adeiladau Parod a Dros Dro a Dymchweliadau i Gyngor Caerdydd, yn ogystal â bod yn Swyddog Caffael i’r ddau Fframwaith Cydweithredol sef Adeiladu Cydweithredol De Ddwyrain a Chanolbarth Cymru (SEWSCAP) a Fframwaith Priffyrdd De Ddwyrain Cymru (SEWH).

Cysylltwch â fi

Lloyd Davies

Swyddog Cymorth Fframwaith

Daf 2

Mae gan Lloyd ddwy flynedd o brofiad yn gweithio yn y sector cyhoeddus i Gyngor Dinas Caerdydd. Yn ei rôl bresennol fel Arbenigwr Categori, mae Lloyd yn gweithio o fewn tîm yr Amgylchedd ac wedi rhedeg nifer o wahanol gaffaeliadau o fewn y categori. Trwy ei astudiaethau academaidd a'i hanes cyflogaeth, mae Lloyd wedi meithrin profiad cryf o reoli perthynas cyflenwyr a rheoli contractau.

Cysylltwch â fi