Ymwadiad: Er bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gyhoeddus, bwriedir iddi gael ei defnyddio'n bennaf gan y cleientiaid a'r contractwyr a gymerodd ran yn y broses dendro ac sydd wedi'u rhwymo gan delerau'r cytundeb fel y'u nodir yn y cytundeb mynediad a chanllawiau defnyddwyr.

Mae Cyngor Caerdydd yn gwneud pob ymdrech i gynnal cywirdeb y wybodaeth ar y wefan hon ond ni all dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod a all ddigwydd o ddefnyddio'r wybodaeth. Mae eich defnydd chi o unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar y wefan hon felly ar eich risg eich hun.

Nid yw Cyngor Caerdydd yn darparu rheolaeth ansawdd ar gysylltiadau allanol ac nid yw'n gyfrifol am gynnwys safleoedd cysylltiedig o'r fath. Ni ddylid cynnwys enw unrhyw drydydd parti o fewn y tudalennau hyn fel argymhelliad o gynhyrchion a/neu wasanaethau y parti hwnnw.

Gall defnyddio'r wefan hon heb awdurdod arwain at hawliad am iawndal a/neu fod yn drosedd.

Mae eich defnydd o'r wefan hon ac unrhyw anghydfod sy'n deillio o ddefnydd o'r fath yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

Cyflwyniad ffurflen ymholiad yn ddiogel

Er mwyn cyflwyno eich Ffurflen Ymholiad Ar-lein i ni ei hystyried, mae angen i ni drosglwyddo eich manylion personol dros y rhyngrwyd. Rydym wedi rhoi prosesau ffisegol, electronig a rheolaethol addas ar waith i ddiogelu gwybodaeth o'r fath gan gynnwys defnyddio technoleg Amgryptio ddiogel 128-did (SSL).

Deddf Diogelu Data 1998 - Caniatâd ac Ardystio Manylion

Bydd y data personol a ddarparwch ar y ffurflen hon ond yn cael ei ddefnyddio at ddibenion ymateb i'ch ymholiad sy'n ymwneud â fframwaith caffael SEWSCAP neu SEWH. Gellir defnyddio’r data personol hefyd at ddibenion ystadegol ac yn arbennig ein polisi cydraddoldebau integredig. Caiff y data ei storio ar ffeiliau cyfrifiadur a/neu ffeiliau llaw.

Er mwyn gweinyddu hyn, gall Cyngor Caerdydd rannu eich data personol gydag Arts Factory Rhondda a'u sefydliad cynnal gwe Amity Web Solutions.

Ni fydd eich manylion personol yn cael eu datgelu i unrhyw sefydliadau eraill heb eich caniatâd, ac eithrio lle mae dyletswydd statudol ar y Cyngor i ddatgelu neu oni bai ei fod yn gysylltiedig â Chyngor Caerdydd.

Trwy gyflwyno Ffurflen Ymholiad Ar-lein rydych yn cadarnhau eich cydsyniad i ganiatáu i Gyngor Caerdydd gofnodi a phrosesu'r wybodaeth y manylir arni yn eich ffurflen Ymholiad. Rydych hefyd yn cadarnhau bod y wybodaeth yn eich ffurflen gais yn gywir. Bydd ffurflenni ymholiad yn cael eu cadw'n fyw am 12 mis yn y Cyngor ac yna eu dinistrio. Yn ôl disgresiwn y Cyngor, gall rhoi gwybodaeth ffug arwain at atal eich defnydd o'r fframwaith neu derfynu'ch contract.

Mae dyletswydd ar yr awdurdod hwn i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei weinyddu, ac i'r perwyl hwn gall ddefnyddio'r wybodaeth a ddarparwyd gennych ar y ffurflen hon ar gyfer atal a chanfod twyll. Gall hefyd rannu'r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus at y dibenion hyn.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein Testun Cryno Hysbysiad Prosesu Teg ar www.caerdydd.gov.uk/twyll a Thestun Llawn yr Hysbysiad Prosesu Teg ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru ar https://www.audit.wales/sites/default/files/download_documents/fair-processing-notice-cymru.pdf

Neu cysylltwch â:
Y Rheolwr Diogelu Data, Ystafell 356, Neuadd y Sir, Caerdydd, CF10 4UW. Ffôn: (029) 20873346.

Hawlfraint

Mae'r wefan hon yn cael ei diogelu gan hawlfraint. Fe'i cyhoeddir gan Gyngor Caerdydd ac mae naill ai'n eiddo i'r Cyngor neu'n cael ei thrwyddedu iddo. Mae ar gael i chi ar delerau gan gynnwys (ac mae'r canlynol yn berthnasol i'r cyfan neu unrhyw ran o'r safle):

  • ei bod ar gyfer eich defnydd personol yn unig;
  • na chewch ei chopïo na'i throsglwyddo na'i hatgynhyrchu fel arall na'i rhoi ar gael ac eithrio i'w lawrlwytho ar un cyfrifiadur a'i gweld at ddefnydd preifat yn unig;
  • na chewch chi, heblaw am ein caniatâd ysgrifenedig penodol ymlaen llaw, ei dosbarthu neu ei defnyddio'n fasnachol; na chewch ei throsglwyddo na'i darparu ar rwydwaith heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol ymlaen llaw;
  • mae ei defnydd ar eich menter chi yn unig