1. Cyflwyniad
Mae SEWSCAP4 — pedwaredd genhedlaeth Fframwaith Adeiladu Cydweithredol De-ddwyrain a Chanolbarth Cymru — yn cydnabod realiti brys newid yn yr hinsawdd ac wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon ar draws yr amgylchedd adeiledig. Fel fframwaith allweddol ar gyfer prosiectau adeiladu'r sector cyhoeddus yn Ne-ddwyrain a Chanolbarth Cymru, mae SEWSCAP4 wedi ymrwymo i arwain drwy esiampl wrth drawsnewid i ddyfodol carbon sero-net. Mae'r strategaeth hon yn amlinellu ein dull o gefnogi cleientiaid a chontractwyr i gyflawni adeiladu sero net drwy'r fframwaith, gan gyfrannu at sector cyhoeddus Cymru Sero Net erbyn 2030 a Chymru Sero Net erbyn 2050.
2. Cefndir
Mae'r sector adeiladu yn ffynhonnell allyriadau carbon fawr, ac yng Nghymru, mae gan y sector cyhoeddus gyfrifoldeb hanfodol wrth arwain yr agenda datgarboneiddio drwy gaffael, dylunio a chyflenwi seilwaith ac adeiladau.
Mae SEWSCAP4 yn dod â sefydliadau'r sector cyhoeddus a chontractwyr ynghyd i gyflawni prosiectau adeiladu cynaliadwy o ansawdd uchel. Drwy ymgorffori lleihau carbon yn ein polisïau a'n gweithrediadau fframwaith, a hyrwyddo caffael sy'n gymdeithasol-gyfrifol, rydym yn cefnogi nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn weithredol ac yn cyfrannu at y nod ehangach o gyflawni Cymru Sero Net erbyn 2050.
3. Gweledigaeth ac Amcanion
Mae SEWSCAP4 wedi ymrwymo i arwain y trawsnewidiad i adeiladu carbon isel yn Ne-ddwyrain Cymru. Ein gweledigaeth yw creu amgylchedd adeiledig sy'n gyrru datgarboneiddio, yn cefnogi gwytnwch hinsawdd ac yn helpu cymunedau i ffynnu mewn hinsawdd sy'n newid. Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Gosod disgwyliadau sero net clir ar gyfer contractwyr trwy ofynion ein Strategaeth Sero Net a'n fframwaith.
- Grymuso ein partneriaid a'n cadwyn gyflenwi i ddatgarboneiddio drwy ddarparu arweiniad, cefnogaeth a dysgu a rennir.
- Meithrin arloesedd a chydweithredu i ddarparu atebion ymarferol, graddadwy sy'n gyrru canlyniadau sero-net.
Gyda'i gilydd, mae'r amcanion hyn yn gyrru ein cyfraniad at lunio amgylchedd adeiledig carbon isel a Chymru wyrddach a mwy cynaliadwy.
4. Cod Lleihau Carbon ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig
Fel fframwaith blaenllaw yn y diwydiant adeiladu yng Nghymru ac yn aelod gweithgar o Gymdeithas Genedlaethol y Fframweithiau Adeiladu (NACF), mae SEWSCAP4 wedi ymrwymo i'r Cod Lleihau Carbon ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig[1].
Er mwyn sicrhau y cydymffurfir â'r Cod, mae SEWSCAP4 yn ei gwneud yn ofynnol i bob contractwr;
- Gofrestru i'r Cod Lleihau Carbon ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig o leiaf ar y lefel addunedwr erbyn 1 Hydref 2026.
- Cyflwyno cynllun lleihau carbon wedi'i ddiweddaru i dîm y fframwaith yn flynyddol.
- Cwblhau'r llwybrau dysgu dynodedig drwy'r Ysgol Cynaliadwyedd Cadwyn Gyflenwi erbyn 1 Hydref 2026.
5. Cynllun Gweithredu
Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth carbon sero-net a chefnogi ein hymrwymiad i'r Cod Lleihau Carbon ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig, bydd SEWSCAP yn gweithredu dull strwythuredig, cydweithredol ar draws tri amcan strategol:
Gosod disgwyliadau sero net clir
Byddwn yn ymgorffori gofynion lleihau carbon yn ein fframwaith drwy:
- Gyhoeddi ac adolygu'n flynyddol ein Strategaeth Carbon Sero-Net SEWSCAP.
- Ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr gyflwyno Cynlluniau Lleihau Carbon blynyddol.
- Gorfodi ymrwymiad contractwr i'r Cod Lleihau Carbon ar lefel addunedwr.
Grymuso ein partneriaid a'n cadwyn gyflenwi
Byddwn yn grymuso ein partneriaid a'n cyflenwyr i ddatgarboneiddio drwy:
- Ddarparu hyfforddiant, templedi ac arweiniad i gontractwyr i ddatblygu cynlluniau lleihau carbon.
- Cynnig mynediad at adnoddau Ysgol Cynaliadwyedd Cadwyn Gyflenwi i bob contractwr.
- Meithrin Arloesi a Chydweithredu
Byddwn yn hyrwyddo rhannu gwybodaeth ac arloesi cynaliadwy drwy:
- Sefydlu Gweithgor Carbon SEWSCAP4 i hyrwyddo cydweithredu traws-sector.
- Ymgysylltu â Grŵp Cynaliadwyedd NACF i rannu arferion gorau ac arloesiadau.
Gwelliant parhaus
Bydd SEWSCAP4 yn adolygu ac yn gwella ei ymagwedd at gynaliadwyedd a strategaeth carbon sero-net yn barhaus i sicrhau ei bod yn parhau i gyd-fynd â'r datblygiadau diweddaraf ym maes cynaliadwyedd, economi gylchol, a thechnolegau carbon isel. Bydd SEWSCAP4 yn gweithio gyda chleientiaid, contractwyr a chyflenwyr hefyd i nodi meysydd i'w gwella a rhannu arferion gorau.
7. Casgliad
Mae SEWSCAP4 wedi ymrwymo i chwarae rôl flaenllaw wrth ddatgarboneiddio'r amgylchedd adeiledig yn Ne-ddwyrain a Chanolbarth Cymru. Drwy gyd-fynd â'r Cod Lleihau Carbon ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig, ac ymgorffori gofynion datgarboneiddio yn ein fframwaith, nod SEWSCAP4 yw hwyluso adeiladu adeiladau sector cyhoeddus o ansawdd uchel sy'n darparu manteision amgylcheddol parhaol i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol yng Nghymru.
[1] Carbon Reduction Code for the Built Environment, Canolfan Seilwaith Clyfar ac Adeiladu Caergrawnt, Rhifyn 4, Chwefror 2025.