Caffael adeiladau ysgol a chyhoeddus cynaliadwy
Yn cydymffurfio â Chyfarwyddebau Caffael yr UE a Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, yn ogystal â Datganiad Polisi Caffael Cymru, mae fframwaith SEWSCAP3 yn cynnig llwybr cyflym i'r farchnad a chyfleoedd i gynnwys contractwyr yn gynnar, gyda ffocws penodol ar ddenu contractwyr o bob maint.
Mae'r fframwaith yn defnyddio blynyddoedd o ddysgu ar y cyd rhwng prynwyr a chontractwyr, gan feithrin cysylltiadau hirdymor mewn amgylchedd o ymddiriedaeth a chydweithrediad tryloyw rhwng y naill a'r llall.
Gan ddarparu dull caffael cyflym a hyblyg i brynwyr a chontractwyr, mae llwyfan SEWSCAP3 yn galluogi mynediad 24/7 i ddogfennau canllaw ar-lein a'r cyfle i gymryd rhan mewn amrywiol weithgorau.
Caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol
Canolbwyntio ar hyfforddiant a chyflogaeth leol
Chwilio am bartneriaid mewn cymunedau lleol
Dilyn ffynonellau gwyrdd a chynaliadwy
Ymrwymo i gyflogaeth foesol
Hyrwyddo llesiant pobl ifanc a bregus
Meddwliwch yn lleol yn gyntaf!
Buddion ariannol
- Costau is i gontractwyr a defnyddwyr
- Uchafswm y ffi, gorbenion a'r canrannau elw wedi eu capio
- Arbedion pellach trwy gystadleuaeth fach
- Am ddim i'w ddefnyddio
- Amrywiaeth o gontractau
- Amrywiaeth o fodelau prisio
Buddion effeithlonrwydd
- Fframwaith hyblyg sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr
- Amseroedd arwain byrrach (o gymharu ag OJEU llawn)
- Contractwyr sy’n benodol i’r sector
- Cyfranogiad contractwyr cynnar Cam 2 ar gael
- Mynediad i blatfform 24/7
Buddion cymunedol
- Chwilio am bartneriaid lleol
- Bwydo i mewn i Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol
- Mynediad i hyfforddiant lleol
- Cynaliadwyedd y gadwyn gyflenwi
- Ffynonellau gwyrdd a chynaliadwy
- Wedi ymrwymo i gyflogaeth foesegol
- Hyrwyddo llesiant pobl ifanc a bregus
Buddion arfer gorau
- Canllawiau manwl i ddefnyddwyr
- Cyfres o ddogfennau unffurf
- Arweiniad a chyngor cyfreithiol
- Rheoli Perfformiad
- Gwelliant parhaus
- Arfer gorau a meincnodi a rennir
- Cydweithio â'r NACF