Croeso i'r adran 'Barn', llwyfan newydd lle bob mis, bydd SEWSCAP yn gofyn i arweinwyr y diwydiant ac arbenigwyr maes am eu meddyliau ar y materion mawr / dadleuon sy'n effeithio ar y diwydiant adeiladu.


Mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r gadwyn gyflenwi... Y Ffordd Ymlaen!

Ken Evans, Cadeirydd blaenorol Sefydliad y Peirianwyr Sifil (SPS) Cymru, sy’n esbonio beth sydd angen digwydd i helpu contractwyr i ymdopi â phroblemau parhaus yn y gadwyn gyflenwi

Mae pawb yn y diwydiant adeiladu / peirianneg sifil yn ymwybodol iawn o'r pwysau a'r problemau sydd wedi llesteirio prosiectau dros y blynyddoedd diwethaf; o Brexit a'r effaith ar gyflenwadau deunyddiau, y rhyfel yn Wcráin sydd ar hyn o bryd yn effeithio ar gost ac ansawdd y bitwmen, diffyg pobl ifanc yn y diwydiant, a chost gyffredinol deunyddiau a oedd ar un adeg yn cynyddu’n wythnosol.

Sdim dwywaith amdani, mae contractwyr yn wynebu pob math o broblemau felly sdim cyfle i laesu dwylo, a bydd digon o hynny yn 2023.

Mae newid mawr ar droed ym maes caffael cyhoeddus! Mae Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus newydd (Cymru) yn aros am Gydsyniad Brenhinol, ac un o’r canlyniadau fydd sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. Yn Lloegr, mae'r Bil Caffael yn gwneud ei ffordd drwy'r senedd. Bydd angen i fusnesau sydd am ennill contractau cyhoeddus ymgyfarwyddo â'r Safon Asesu Cyffredin – system wedi’i harwain gan y sector cyn cymhwyso sy'n cwmpasu ystod o themâu o ran cydymffurfio, o iechyd a diogelwch i gaethwasiaeth fodern a llygredd.

Bydd diwygiadau diogelwch ym maes adeiladu hefyd yn sgil Deddf Diogelwch Adeiladu 2022. A, bydd gwerth cymdeithasol, yn gwbl briodol, yn fwyfwy amlwg gan ganolbwyntio’n fwy ar yr unigolyn. Bydd hynny’n cael effaith wirioneddol ac amlwg, ac yn gadael gwaddol cymunedol. Mae hyn yn rhywbeth y mae fframweithiau SEWSCAP a SEWH yn arwain ymlaen ers y ddwy flynedd ddiwethaf, gan addysgu contractwyr yn y broses, sy’n glodfawr yn wir.

Ond mae’n ddigon posib mai costau cadwyn cyflenwi a diffyg gweithwyr yw’r heriau mwyaf, sy’n ychwanegu at y pwysau wrth dendro. . Efallai bod costau wedi sefydlogi rywfaint, ond mae’r problemau wedi bod yn ddifrifol ac mae hynny wedi cael effaith dirfawr.

Er enghraifft, mae'r fasnach gyflenwi yn dal yn ansicr ynglŷn â dyfynbrisiau am ddeunyddiau, oherwydd erbyn cwblhau’r tendr, bydd prisiau siŵr o fod wedi codi. Mae’r broblem hon yn codi wrth gwblhau tendr; erbyn hyn, mae angen dyfynbris gan sawl cwmni i gael pris da, lle yn y gorffennol pan oedd costau’n fwy sefydlog, gellid cysylltu â chwmni gan wybod yn barod bod y pris yn mynd i fod yn dda. Mae'r broses hon bellach yn ychwanegu mwy o gymhlethdod ar dendrau, gan gynyddu'r pwysau i gwblhau tendr mewn da bryd.

Mae hyn hefyd yn effeithio ar aildendro; mae'n siŵr y bydd costau'r gadwyn gyflenwi wedi codi o ddyfynbris y tendr gwreiddiol, felly bydd aildendro'n fwy problematig.

Ond mae ffordd ymlaen... cyfathrebu a chydweithio!

Er mwyn helpu i oresgyn problemau yn y gadwyn gyflenwi mae angen mwy o gyfathrebu drwy weithdai a thrafodaethau bwrdd crwn. Rhaid i'r rhain gynnwys pob partner posibl, o gontractwyr ac Awdurdodau Lleol, i fframweithiau a darparwyr addysg. Dim ond drwy'r math hwn o gydweithio y bydd mwy o ddealltwriaeth o’r pwysau a’r costau yn y gadwyn gyflenwi, sy’n cael effaith enfawr ar amserlenni a gwaith projectau

Yn sail i hyn, dylai fod ffocws o’r newdd ar ddarparwyr addysg ac astudiaethau achos. Rhaid tynnu sylw at y cwmniau hynny sydd wedi llwyddo i ddenu’r genhedlaeth nesaf i faes adeiladu a pheirianneg sifil. Dylid eu hannog i egluro sut y llwyddon nhw i recriwtio, beth gawson nhw'n iawn, beth i beidio â'i wneud, a dylid helpu sefydliadau addysgol i gyfleu'r negeseuon cywir i fyfyrwyr.

Hefyd, mae angen ystyried yn fwy sut mae Dyrannu Risg yn iawn mewn prosiectau ac mae'n hanfodol bod Telerau ac Amodau yn adlewyrchu sefyllfaoedd penodol ar bob prosiect fel bod pawb yn ymwybodol o'r problemau a'r cyfrifoldebau.

Nid gwyddoniaeth roced mohono, ond heb y cyfathrebu, bydd problemau yn y gadwyn gyflenwi yn parhau i fod yn dalcen caled ac yn y pen draw, nid yw hynny o fudd i neb!

Mae pawb ar eu hennill gyda Chyfrifon Banc Prosiectau

Penny Haywood, Rheolwr Categorïau SEWSCAP a SEWH sy’n esbonio

Pe bai rhywun yn cynnig llif arian gwell i'ch busnes oherwydd bod taliadau'n cael eu derbyn yn gyflymach na'ch telerau talu arferol, bod llai o amser yn cael ei wastraffu yn olrhain taliadau ac yn rheoli anghydfodau yn ymwneud â thalu, gan arwain at lai o straen ar y busnes a'ch staff, a fyddech chi'n ei groesawu?

Dyma'n union beth sy'n cael ei gynnig drwy Gyfrifon Banc Prosiectau (CBPau), sy'n cael ei hyrwyddo gan bolisi CBP Llywodraeth Cymru (Nodyn Polisi Caffael Cymru (NPCC 03/21) fel modd o hwyluso taliad teg ac amserol i fusnesau bach a chanolig sy'n chwarae rhan hanfodol yng nghadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus, ond sy'n gallu canfod eu hunain yn delio â thelerau talu estynedig ac arferion talu gwael.

Ond beth yn union yw CBPau? Yn syml, cyfrifon banc wedi'u clustnodi a’u hatgyfnerthu â statws ymddiriedolaeth, a'u sefydlu trwy lawer o'n prif fanciau manwerthu, sy'n gweithredu fel mecanwaith ar gyfer gwneud taliadau yn unig. Mae telerau talu amlhaenog traddodiadol rhwng haenau dilynol yn y gadwyn gyflenwi wedi arwain at isgontractwyr yn aml yn gorfod delio â thelerau talu 60-90 diwrnod, neu delerau talu hirach mewn rhai achosion. Gall CBPau newid hynny i gyd, gan wneud taliadau o fewn 3-5 diwrnod, o dalu’r arian i mewn i'r cyfrif yn dilyn ardystiad arferol yr amserlen dalu a chyflwyno anfoneb gywir. I is-gontractwr, gall hyn olygu ei fod yn cael ei dalu o fewn 7 i 14 diwrnod o gyflwyno ei anfoneb.

Mae CBPau yn cynrychioli arfer gorau wrth sicrhau taliad teg a phrydlon yn y gadwyn gyflenwi, gan sicrhau llif arian gwell, a helpu i leihau methiant y gadwyn gyflenwi i fusnesau Cymru. Yn ychwanegol, wrth iddyn nhw gyflymu'r taliad, maent yn rhoi'r cyfle i roi'r arian hwnnw i weithio'n gynt er budd ein heconomi a'n cymunedau lleol. Mae busnesau sydd wedi elwa o CBPau wedi dweud eu bod yn gallu prynu offer a pheiriannau newydd yn gynt, sy'n gwella eu cynhyrchiant a'u gallu i gystadlu. Mae gan daliadau cyflymach, a sicrwydd taliadau, y potensial i fagu hyder busnesau i greu cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth o ansawdd uchel.

I lawer o fusnesau Cymreig mae'n rhaid bod CBPau yn teimlo fel bod y Nadolig wedi dod yn gynnar. Ac eto, canfu arolwg diweddar gan Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru (CEW) ymhlith busnesau bach a micro (47%) a busnesau canolig eu maint (53%) fod bron i hanner yr ymatebwyr yn nodi eu dealltwriaeth o CBPau fel hyn: naill ai bod ganddynt ‘ddim gwybodaeth’ am CBPau neu fod ganddynt 'ddealltwriaeth sylfaenol ond yn aneglur am sut y maent yn gweithio neu'r manteision o ddefnyddio un'.

Mae'n ymddangos, po fwyaf yw'r sefydliad y gorau yw'r wybodaeth am CBPau. Mae hyn yn tynnu sylw at y gwir angen sydd i gyfathrebu’n well i fusnesau bach a micro sydd heb yr amser na'r staff i astudio'r manylion. Nid yn unig y bydd eu llif arian yn gwella'n ddramatig trwy daliadau cyflymach, ond mae unrhyw arian a gedwir mewn CBP ar gyfer taliadau i isgontractwyr a gofrestrodd gyda’r trefniant CBP, yn cael ei warchod yn achos ansolfedd y prif gontractwr.

Mae gwaith i’w wneud o hyd i godi ymwybyddiaeth ymhlith busnesau yn ein cadwyni cyflenwi o fanteision CBPau a sut maen nhw'n gweithredu. Yn benodol i chwalu mythau am 'dâp coch' a chostau i fusnesau bach a chanolig sy'n ymuno â CBP...

Ni allai'r angen i gofleidio CBPau fod yn fwy o achos brys fel y mae ffigyrau diweddaraf 'Red Flag Alert' *Begbies Traynor, sy'n monitro iechyd ariannol cwmnïau Prydeinig, ac a gafodd eu hadrodd ar BusinessLive y mis Hydref hwn, yn dangos; Roedd dros 17,500 o fusnesau Cymru mewn trallod ariannol 'sylweddol' yn ystod trydydd chwarter 2022 ac fe welodd Cymru gynnydd o 4% yn nifer y cwmnïau oedd yn ei chael hi'n anodd rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2022 - i 17,527. Roedd hyn yn gynnydd o 5% o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2021. Busnesau adeiladu yn y rhanbarth yw'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf, gyda 2,796 o gwmnïau mewn trallod ariannol sylweddol yn ystod y tri mis diwethaf.

Ac mae'n hawdd cofrestru am CBP; bydd rhai isgontractwyr yn cael gwahoddiad i ymuno â'r CBP ond gall unrhyw un ofyn am ymuno. Yn syml, mae'r is-gontractwr yn arwyddo Gweithred Ymuno sy'n cael ei ddarparu am ddim gan gleient neu brif gontractwr yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru. Mae talu trwy CBP hefyd yn rhad ac am ddim i isgontractwyr. Telir costau gweinyddol y banc a chostau trafodiadol y taliad gan ddeiliad(iaid) y cyfrif a nhw fydd cleient a / neu brif gontractwr y Sector Cyhoeddus yng Nghymru.

Yn ôl y polisi CBP, ym mhob achos lle mae CBP yn gymwys, rhaid gwahodd cyflenwyr Haen 2 neu haenau is sy'n cyfrif am o leiaf 1% o werth dyfarniad y contract net i ymuno â'r CBP a dylid gwahodd cyflenwyr Haen 2 neu gyflenwyr haen is sy'n cyfrif am lai na 1% o werth dyfarniad y contract net, i ofyn am ymuno â'r CBP. Dylai derbyn ceisiadau o'r fath fod yn amodol ar gytundeb yr WPS a'r prif gontractwr.

Felly, i fusnesau bach a chanolig sy'n gweithio o fewn y sector adeiladu, mae CBPau wir yn golygu bod pawb ar eu hennill. Does dim ond angen iddyn nhw gofleidio'r hyn sydd ar gael ac elwa ar y manteision!

*Warning as 17,000 Welsh firms in significant financial distress amid economic turmoil - Business Live (business-live.co.uk)


'Gwerth cymdeithasol'... Geiriau Bach gyda Phwysigrwydd Mawr

Mae Prif Swyddog Gweithredol ANTZ, Jen Pemberton, yn esbonio pam fod angen i'r diwydiant adeiladu ddeall y geiriau 'gwerth cymdeithasol' mor glir â 'morter, agregau ac insiwleiddio'.

Dwi wedi clywed y geiriau 'gwerth cymdeithasol' yn cael eu disgrifio fel 'nonsens', 'ymarferiad ticio bocs', a 'rhywbeth allwn ni sortio gyda phrynu cit newydd i dîm pêl-droed lleol, yn peintio waliau neuadd gymunedol, neu gasglu rhywfaint o sbwriel ar hyd glan afon'.

Mae'n hanfodol bellach bod diwydiant adeiladu'r DU yn deall yn iawn sut mae 'gwerth cymdeithasol' yn ei olygu ac yn edrych; sut wrth i ni ymgysylltu'n iawn, mae'n sicrhau newid cynaliadwy, diriaethol i gymuned ac mae'n wirioneddol effeithio arno. Nid yw'n golygu cyflawni rhywbeth rydych chi'n meddwl sydd ei angen, megis ceginau cawl niferus oherwydd i'r cyfryngau neu Awdurdod Lleol sôn am ddigartrefedd yn ei ranbarth! Mae'n hanfodol i gwmnïau adeiladu ddeall y materion cymdeithasol penodol o fewn yr ardal dendro.

Peidiwch â chymryd fy ngair i amdano; os yw cwmnïau adeiladu am barhau i ennill gwaith gyda'r sector cyhoeddus, sy'n cyfrif am tua chwarter yr allbwn adeiladu yn y DU, mae angen iddyn nhw gymryd sylw o'r ddeddfwriaeth sy'n rhoi gwerth cymdeithasol yn amlwg iawn o fewn y broses dendro.

Yng Nghymru, cydnabyddir y term gwerth cymdeithasol gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.

Mae'n pennu pum ffordd o weithio y mae angen i gyrff cyhoeddus eu cyflawni os ydynt am gyrraedd y nodau lles a nodir yn y Ddeddf. Sef:

  • Hirdymor: pwysigrwydd cydbwyso anghenion byrdymor â'r angen i ddiogelu'r gallu hefyd i fodloni anghenion hirdymor
  • Integreiddio - Ystyried sut y gall amcanion lles cyrff cyhoeddus effeithio ar bob un o'r nodau lles, ar eu hamcanion, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill
  • Cynnwys - Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau lles, a sicrhau eu bod yn adlewyrchu amrywiaeth yr ardal a wasanaethwn.
  • Cydweithio - Gweithredu ar y cyd ag unrhyw berson arall (neu wahanol rannau o'r corff ei hun) a allai helpu'r corff i gyflawni ei amcanion lles.
  • Atal - Sut y gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu ein helpu i fodloni’n hamcanion.

Atgyfnerthir y Ddeddf gan Nodyn Polisi Caffael WPPN 01/20 sy'n rhoi cyngor i gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru ar amcanion polisi cyffredinol Llywodraeth Cymru ac adrodd canlyniadau mewn perthynas â chymalau gwerth cymdeithasol / buddion cymunedol.

Mae'r Nodyn Polisi ar gyfer sylw pob awdurdod contractio yng Nghymru, gan gynnwys, adrannau Llywodraeth Cymru, Cyrff GIG Cymru, Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a'r sector cyhoeddus ehangach, a roddwyd ar waith o fis Tachwedd 2020.

Mewn geiriau eraill, os yw cwmnïau adeiladu am ennill busnes gyda'r sector cyhoeddus yng Nghymru, mae angen iddynt ddeall sut i sicrhau gwerth cymdeithasol diriaethol sy'n berthnasol i'r cymunedau y byddant yn gweithio ynddynt. Trwy wneud hyn, gall busnesau adeiladu perthnasoedd traws sector cryfach, tyfu eu busnes a rhoi yn ôl i'r gymuned.

Dylai sicrhau gwerth cymdeithasol o fewn y cymunedau lle mae busnes yn gweithredu fod yn rhan arferol o'r strategaeth fusnes fel iechyd a diogelwch ac AD.

Mae angen i gwmni adeiladu ddod â'i gadwyn gyflenwi a'i bartneriaid ynghyd â nhw ar y daith, gan sicrhau newid gwirioneddol, cynaliadwy yn y gymuned ac yn fasnachol, gan alinio eu strategaeth gymdeithasol i'w strategaeth fasnachol.

Mae'r dull hwn yn hanfodol ac yn golygu nid yn unig y gellir cyflawni twf busnes, ond mae staff cwmni a'i bartneriaid yn cael bod yn rhan o rywbeth pwerus, gan helpu i hybu eu hyder, morâl a synnwyr eu hunain o werth. I unrhyw fusnes sy'n cymryd rhan mewn darparu gwerth cymdeithasol go iawn mae'n fuddugoliaeth.

Allwedd i weithredu rhaglen gymunedol lwyddiannus sy'n darparu gwir werth cymdeithasol yw sicrhau bod dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael ei gymryd gyda'r holl bartneriaid cymunedol yn cael 'sedd o amgylch y bwrdd' a 'llais cyfartal' wrth drafod sut y dylai rhaglen ymgysylltu weithio, sut orau i estyn allan, sut mae llwyddiant yn edrych a sut i'w ddarparu. Mae hyn yn lleihau hunan-asesu a thicio bocsys sydd wedi esblygu mewn adrodd ar werth cymdeithasol.

Mae pob rhaglen ymgysylltu yn wahanol a dim ond drwy wrando ar y gymuned ei hun a gall cymryd agwedd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ddechrau deall sut i sicrhau'r lefel gywir o newid cynaliadwy.

Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach oherwydd effeithiau Covid ar gymunedau a'r angen i nawr 'Adeiladu'n Ôl yn Well', mynd i'r afael â gwendidau mawr yn yr economi a'r anghydraddoldebau dwfn yn ein cymdeithas sy'n golygu mai pobl fwyaf bregus sydd wedi cael eu taro galetaf.

Efallai eu bod nhw'n ddau air bach, ond mae gan 'werth cymdeithasol' ran enfawr i'w chwarae yn nhwf busnes a chymunedau yn 2022 a thu hwnt.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Alexandra Robinson - Cyfarwyddwr Cyfrif y DU ac Ewrop, ANTZ

Ffôn: 01619895288 | 07775661982 E-bost: [email protected]