Diweddariadau diwydiant

Eich crynodeb diweddaraf o'r hyn sy'n digwydd o amgylch y fframwaith ac o fewn y Diwydiant Adeiladu Ysgolion ac Adeiladau Cyhoeddus ehangach.


Gwobrau'r diwydiant

Cenhadaeth fframwaith SEWSCAP3 yw cyflawni trefniadau gwerth gorau ar gyfer De Ddwyrain a Chanolbarth Cymru trwy gaffael cystadleuol, tra’n ysgogi adfywio, gwelliant parhaus ac arfer gorau.

Pan fyddant yn llwyddiannus yn yr ymdrechion hyn, bydd contractwyr yn cofnodi cyflawniadau a pherfformiad projectau ar ffurf astudiaethau achos ac yn cystadlu am wobrau perthnasol.

Ceir rhestr o wobrau perthnasol Diwydiant Adeiladu'r DU, ynghyd â therfynau amser ar gyfer eu cyflwyno yma.


Derbyniodd SEWSCAP, Fframwaith Adeiladu ar y Cyd i Ysgolion ac Adeiladau Cyhoeddus De Ddwyrain a Chanolbarth Cymru gymeradwyaeth a chydnabyddiaeth y diwydiant pan enillodd yr anrhydedd uchel ei barch o 'Cleient y Flwyddyn' yng Ngwobrau Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru 2016.

Ers dros ddegawd, mae Gwobrau CEW wedi bod yn cydnabod ac yn gwobrwyo arferion gorau yn niwydiant adeiladu Cymru, gan sicrhau bod yr amgylchedd adeiledig yn cael ei greu trwy brosesau sy'n cyd-fynd â pholisi Cymru sy'n arwain at Gymru gyfrifol, gydnerth a ffyniannus.

Teimlai beirniaid Gwobr CEW ei bod yn bwysig cydnabod bod creu endid unigol, wedi arwain at gaffael cynaliadwy a symlach. Roeddent o'r farn bod arweinyddiaeth glir a chyson, gweithredu egwyddorion craidd Adeiladu Arbenigrwydd ac arfer gorau a rennir, ynghyd â dogfennau safonol a DPAau wedi'u rhesymoli yn fodel a fydd yn gosod y meincnod ar gyfer rhanbarthau eraill yng Nghymru.

Wrth sôn am y wobr, dywedodd Milica Kitson, Prif Weithredwr Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru bod SEWSCAP wedi derbyn Gwobr 'Cleient y Flwyddyn' oherwydd bod y fframwaith wedi ymrwymo i “greu prosesau a rennir, rhannu gwybodaeth a rhannu ymdeimlad o bwrpas” gan arwain at “safonau uwch a chodi’r bar”.

Lawrlwythwch pdf o lyfryn enillwyr Gwobrau Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru 2016 yma.