Fframwaith Partneriaid Gwerth Cymdeithasol

Mae Fframwaith SEWSCAP yn gweithio gyda nifer o Bartneriaid Gwerth Cymdeithasol i ddarparu mentrau gwerth cymdeithasol yn y rhanbarth, gan ymdrechu i wneud gwahaniaeth mewn cymunedau.


ANTZUK

Mae ANTZ yn sefydliad effaith gymdeithasol flaenllaw yn y DU a chafodd ei sefydlu yn 2008. Mae'n gweithio gyda chwmnïau rhyngwladol mawr, busnesau bach a chanolig a micro-sefydliadau, hyd at gyrff sector cyhoeddus fel Awdurdodau Lleol a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, i helpu i dyfu dealltwriaeth o beth yw gwerth cymdeithasol, sut mae'n cael ei ddarparu orau ac, yn bwysig, sut mae'n cael ei fesur.

Mae ANTZ yn helpu busnesau i dyfu ac effeithio'n gadarnhaol ar y gymdeithas ar yr un pryd, ac mae wedi cael ei gydnabod yn y gorffennol am ei allu i gefnogi busnesau i sicrhau newid cadarnhaol yn y cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt, trwy ennill gwobr genedlaethol gyda'i bartner Atos – Gwobr y Sefydliad Gweithio Cydweithredol ar gyfer Gweithio Effaith Gymdeithasol gyda'r Trydydd Sector.

Yn ei hanfod, mae ANTZ yn helpu i lunio strategaethau o amgylch gwerth cymdeithasol ac yn cefnogi busnesau lle bynnag y maent ar eu taith gwerth cymdeithasol.


Bullies Out

Fe'i sefydlwyd ym mis Mai 2006 ac rydym yn un o elusennau gwrth-fwlio mwyaf ymroddedig ac uchelgeisiol y DU. Mae ein gwaith arobryn yn cael ei ddarparu ar draws y DU a phob blwyddyn, drwy ein gwaith gydag unigolion, ysgolion, ieuenctid a lleoliadau cymunedol a'r gweithle, rydym yn darparu addysg, hyfforddiant a chymorth i filoedd o bobl.

Drwy ein gweithdai a’n rhaglenni hyfforddi rhyngweithiol arloesol, rydym yn defnyddio ein profiad, ein hegni a'n brwdfrydedd i ganolbwyntio ar ymwybyddiaeth, atal, a meithrin empathi a pherthnasoedd cadarnhaol â’n cymheiriaid gyda hyn i gyd yn hanfodol i greu amgylchedd meithringar lle gall pobl ifanc ac oedolion ffynnu.

Gweledigaeth

Ein Gweledigaeth yw grymuso ac ysbrydoli plant, pobl ifanc ac oedolion i oresgyn ymddygiad bwlio, cydnabod eu hunan-werth a chyflawni eu llawn botensial.

Cenhadaeth

Ein Cenhadaeth yw cefnogi unigolion, ysgolion, lleoliadau ieuenctid a chymunedol a'r gweithle trwy raglenni gwrth-fwlio a lles cadarnhaol ac arloesol ac i rymuso unigolion i gyflawni eu llawn botensial.

Gwerthoedd

  • Uchelgeisiol: Rydym yn uchelgeisiol, yn weithgar ac yn ymroddedig i gefnogi'r rhai rydyn ni'n gweithio gyda nhw.
  • Cymuned: Byddwn yn parhau i gydweithio gyda sefydliadau a phartneriaid yn y gymuned i ategu'r adnoddau presennol sydd ar gael.
  • Grymuso: Byddwn yn ymdrechu i ddelio â mater systemig ymddygiad bwlio a grymuso ein buddiolwyr i godi llais ac ysgogi newid.
  • Rhagoriaeth: Arwain y maes yn yr arfer gorau a safonau uchel. Parhau i dyfu, addasu a darparu ein gwasanaethau gyda phrofiad, brwdfrydedd a medrusrwydd.
  • Cywirdeb: Rydym yn onest ac yn deg ac yn gweithredu'n gyson yn unol â chod moesol ym mhob peth a wnawn.

Rydym yn gwneud ein gorau glas i fod yn uchelgeisiol ac rydym yn parhau i ddarparu gwasanaeth ardderchog i'r bobl yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Mae'r plant a'r bobl ifanc rydyn ni'n gweithio gyda nhw yn llawn potensial. Mae ganddynt y grym i ysgogi newid a byddwn yn parhau i'w grymuso i siarad yn erbyn ymddygiad bwlio ac ymddwyn gydag uniondeb ac fel modelau rôl o fewn eu cymunedau.


Cymorth i Fenywod Caerdydd

Mae Cymorth i Fenywod Caerdydd wedi ymrwymo i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched a darparu cefnogaeth o ansawdd uchel a grymusol i oroeswyr camdriniaeth. Gan weithio ar draws y brifddinas rydym yn darparu llety brys, cymorth cymunedol, gwaith grŵp, addysg, cwnsela ac ôl-ofal, ac rydym wedi gwneud hynny ers i'n lloches gyntaf gael ei sefydlu ym 1974 gan fenywod llawr gwlad a oedd yn wirfoddolwyr. Ein nod yw gweithio gyda phob cymuned yng Nghaerdydd i ymgyrchu dros newid cymdeithasol er mwyn dod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben a darparu
gwell ymateb i bob goroeswr.

Mae Cymorth i Fenywod Caerdydd yn darparu llwybr amlddimensiwn i fenywod a phlant sy'n profi trawma a cham-drin, yn dianc rhagddynt ac yn gwella ar ôl dioddef y rhain, lle gall menywod ddewis y gwasanaethau

a’r opsiynau sydd fwyaf defnyddiol ar eu taith adfer. Ein dau faes gwasanaeth craidd yw:

Gwasanaeth RISE
Fel prif ddarparwr gwasanaethau sy’n ymwneud â thrais yn erbyn menywod a merched yng Nghaerdydd, mae gennym gontract tan 2025 i ddarparu'r gwasanaeth RISE, a gyflwynir mewn partneriaeth â BAWSO a Llamau. Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnwys pwynt mynediad 24/7 i gymorth, 56 o fannau lloches, 16 o unedau gwasgaredig/camu i lawr, cymorth cymunedol un i un, cymorth arbenigol un i un ar gyfer plant a phobl ifanc a chymorth therapiwtig PATH.

Canolfan y Menywod
Mae ein gwasanaeth ôl-ofal ac adfer yn hanfodol wrth gefnogi menywod i adennill rheolaeth dros eu bywydau, datblygu ffrindiau a sgiliau, a mynd ymlaen i ddatblygu a ffynnu. Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnwys:
Ystod o weithgareddau gwaith grŵp, grwpiau cefnogi cyfoedion, gweithgareddau ymgysylltu cymunedol ac allgymorth a chyfleoedd i wirfoddoli yn ogystal â chwnsela a chefnogaeth therapiwtig.
Rydym hefyd yn darparu gwaith atal sy’n cynnwys dull addysg cyfan mewn ysgolion, prosiect Mannau Diogel UK Say No More ar gyfer busnesau yn ogystal â chyfathrebu ac ymgyrchoedd rheolaidd.


Groundwork Cymru

Groundwork yw'r elusen gymunedol â chalon werdd. Rydym yn gweithio i greu cymdeithas o gymunedau cynaliadwy sy'n fywiog, yn iach ac yn ddiogel, sy'n parchu'r amgylchedd lleol a byd-eang a lle mae unigolion a menter yn ffynnu.

Rydym yn elusen gofrestredig ac yn aelod o Ffederasiwn Ymddiriedolaethau Groundwork y DU. Ers 1990 rydym wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid mewn cymunedau lle mae'r angen mwyaf, ar draws de a chanolbarth Cymru, i ddarparu rhaglenni ar lawr gwlad sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau a rhagolygon pobl.

Yn Groundwork Wales, rydyn ni i gyd yn ymwneud ag adfywio yn ei ystyr lawnaf. Rydym yn defnyddio ymgysylltu amgylcheddol lleol er mwyn gwireddu a rhyddhau potensial mewn unigolion a chymunedau, gan weithio tuag at les cenedlaethau'r dyfodol a Chymru fwy llewyrchus.

Mae ein rhaglenni'n wyrdd yn eu hanfod, yn gyfannol, yn hyblyg ac wedi'u teilwra i anghenion penodol drwy'r Academi Werdd, Gwasanaethau Gwyrdd a Green Enterprise.

Academi Werdd

Mae'r Academi Werdd yn cynnig amrywiaeth o fentrau hyfforddiant a datblygu ar gyfer pobl ifanc difreintiedig ac agored i niwed drwy ei chanolfan hyfforddi achrededig Agored Cymru. Mae dilyniant sgiliau unigol yn allweddol i'n gwaith.

Gwasanaethau Gwyrdd

Mae'r Gwasanaethau Gwyrdd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau amgylcheddol yn yr awyr agored naturiol a’r tu mewn i gartrefi a chanolfannau cymunedol i wella iechyd, cyfoeth a lles pobl sy'n byw mewn tlodi.

Green Enterprise

Mae Green Enterprise yn cefnogi gwirfoddoli a lleoliadau profiad gwaith drwy fentrau. Mae'r holl incwm sy'n cael ei gynhyrchu yn cael ei fuddsoddi yn ôl i'r gymuned leol.


Llamau

Cenhadaeth Llamau yw rhoi terfyn ar ddigartrefedd i bobl ifanc a merched yng Nghymru. Mae'n uchelgais mawr ac i rai, gallai ymddangos yn amhosib. Ond yn Llamau, rydyn ni'n gwybod nad yw digartrefedd yn anochel – does dim rhaid iddo fodoli mewn gwirionedd.

Yn anffodus, bob blwyddyn yng Nghymru, gwrthodir i filoedd o bobl eu hawl moesol i gartref, ac mae'r mater yn parhau i waethygu. Y llynedd, fe ofynnodd bron 8,000 o bobl ifanc a dros 16,000 o fenywod am help gyda digartrefedd yng Nghymru.

Nod gwaith Llamau ar draws Cymru yw cyflawni tri pheth bras: Rydym yn atal pobl rhag cael eu gwthio i ddigartrefedd yn y lle cyntaf. Rydym yn darparu llety diogel a chartrefol pan fydd yn gwneud hynny. Ac rydym yn darparu cymorth i helpu pobl i symud ymlaen a byw bywydau annibynnol a boddhaus ar ôl digartrefedd.


School of Hard Knocks

Mae SOHK yn darparu rhaglenni sy'n newid bywydau ledled y DU. Rydyn ni'n newid bywydau plant ac oedolion gan ddefnyddio cyrsiau rygbi, bocsio a strongman, gyda chwricwlwm o wersi bywyd pwerus. Rydym yn gweithio gydag oedolion di-waith i ddod o hyd i waith a'i gynnal; a gyda phlant ysgol mewn perygl o gael eu gwahardd i'w helpu i ailgysylltu ag addysg.


Street Games

Mae GemauStryd yn harneisio pŵer chwaraeon i greu newid cadarnhaol ym mywydau pobl ifanc ddifreintiedig ledled y DU. Mae gwaith StreetGames yn helpu i wneud pobl ifanc a'u cymunedau yn iachach, yn fwy diogel ac yn fwy llwyddiannus. Yng Nghymru, mae eisoes wedi cefnogi dros 75,000 o bobl ifanc.


Supply Chain Sustainability School

Gall SCSS helpu cwmnïau adeiladu i fodloni gofynion cynaliadwyedd eu cleientiaid drwy gyfoeth o adnoddau sy'n canolbwyntio ar adeiladu a chynnal a chadw adeiladau, seilwaith a chartrefi mwy cynaliadwy. Darperir mynediad i lyfrgell adnoddau arobryn sy'n cynnig e-ddysgu, ffilmiau, offer ac adnoddau dysgu gyda'r wybodaeth orau bosib am gynaliadwyedd, adeiladu oddi ar y safle a thechnegau rheoli.


Cyngor Ffoaduriaid Cymru

Grymuso ceiswyr lloches a ffoaduriaid i adeiladu dyfodol newydd yng Nghymru. Rydym yn darparu gwasanaethau cyngor a chymorth arbenigol i geiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad i'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi ymrwymo i amddiffyn hawliau dynol pobl sy'n cael eu gorfodi i geisio diogelwch rhag erledigaeth, rhyfel, gwrthdaro a mathau eraill o anghyfiawnder a cham-drin. Ers dros 30 mlynedd, rydym wedi bod yn helpu ceiswyr lloches a ffoaduriaid i lywio eu ffordd trwy system loches y DU gyda chyngor a chymorth arbenigol.

Mae gennym swyddfeydd yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe, a Wrecsam.

Rydym yn gweithio’n helaeth gydag amrywiaeth o bartneriaid cymunedol, gwirfoddol a statudol yn y sector i greu cymdeithas lle mae parch a chydraddoldeb yn hollbwysig a lle rhoddir hawliau dynol ar waith.

Rydym yn cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid ar adegau mwyaf tyngedfennol eu bywydau. Mae ein gwaith yn gwneud y gwahaniaeth rhwng rhywun y mae ei hawliad am loches wedi’i wrthod ac yna mae ei fywyd yn chwalu gan arwain at amddifadrwydd, problemau iechyd heb eu trin a digartrefedd, neu ddyfodol amgen lle maen nhw'n dechrau adeiladu bywyd yng Nghymru gyda sgiliau iaith gwell, mynediad i fudd-daliadau, cymorth cyfreithiol, a gwasanaethau cymorth eraill.

Mae’r Tîm Addysg a Chyflogadwyedd wrth wraidd y weledigaeth honno. Er mwyn i bobl ymgartrefu’n llwyr, deallwn fod angen iddynt ddatblygu drwy addysg, gan weithio ochr yn ochr â'u cymdogion newydd, darparu ar gyfer eu teuluoedd a chyfrannu at eu cymuned.